Logo Pwllheli Holiday Cottage, Penfras Isaf Bach

 

English Version

 

Croeso Cynnes.


Hafan

Manylion

Lluniau

Lleoliad

Ymholiad

Tirwedd

Atyniadau

Tywydd

Gwyliau Gwyrdd

Prisiau

Cysylltu


Penfras Isaf BachCroeso i wefan Penfras Isaf Bach ein bwthyn gwyliau ni yn Llwyndyrys ger Pwllheli. Edrychwn ymlaen i rhoi croeso cynnes i chi yn ein bwthyn bach ni.

Gyda mynyddoedd Carnguwch, yr Eifl a Tre'r Ceiri y tu cefn i ni, a lonydd bychain a llwybrau cerdded o'n cwmpas rydym yn siwr y byddwch wrth eich bodd yn cerdded neu yn mynd ar eich beic yma.

Mae atyniadau gorau Llyn ac Eifionydd o fewn 15 munud gan gynnwys Y Lon Goed, mynyddoedd yr Eifl a thraethau Pen Llyn. Mae cyfle i bysgota ar yr afon Erch(drwy garedigrwydd ystad Trallwyn) sydd dafliad carreg oddi wrth y bwthyn, beth am goginio eich brithyll eich hun ar BBQ?!

Mae'r bwthyn yn cael ei wresogi gan y ddaear, system gyfan gwbwl werdd. Mae cegin fodern, teledu a chwaraewr DVD, rhestr DVD's i'w benthyg, cysylltiad Wi-Fi i'r we a gemau cyfrifiadurol, rhagofn y bydd hi'n diwrnod glawog! Mae ganddom feics mynydd y cewch ei benthyg hefyd..a llawer mwy!

Edrychwn ymlaen i'ch gweld!